P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Neil Bates, ar ôl casglu cyfanswm o 100 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer o'r lleoliadau celfyddydol ac adloniant yn wynebu cael eu cau yn fuan. Oni bai fod Llywodraeth Cymru yn dechrau trefnu cymorth yn syth drwy ddyrannu’r £59 miliwn o bunnoedd sydd ganddi ar gyfer y diwydiant bydd llawer o leoliadau yn cau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn anffodus, mae adloniant a'r celfyddydau fel petaent ar waelod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ychydig iawn o drafod sy'n digwydd ac mae diffyg gwybodaeth dim ond yn ychwanegu at y broblem.
Cefnogwch y diwydiant adloniant drwy arwyddo'r ddeiseb hon cyn i ddiwydiant hanfodol arall gael ei golli yn eich ardal chi a mwy o bobl wynebu diweithdra. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddangos cefnogaeth.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru